We were a bit thin on the ground today, with several members struck down with coughs and colds. There were still 22 in attendance, however – and we welcomed a newcomer and an old friend we haven’t seen in over a year, so it was a very positive start to 2020. Both groups continue to make excellent progress. Anne’s group have purchased the Foundation level books ready for September. Many have also attended courses with Popeth Cymraeg over the new year and have gained much confidence with their speaking skills. We’re planning a revision course at the Stanley Arms in February, details to be issued in due course. The reading group finished “Yn Ei Gwsg” by Bethan Gwanas. Everyone enjoyed the book very much, considering it to be a really good story, well written, amusing – and with a great twist at the end. Our next meeting is on Thursday, 6th February 2020, 10.00am upstairs in the reading room in the Harris Library. There will be a Committee Meeting at 1.00pm.
Roedd sawl aelod yn absennol heddiw, yn dioddef peswch ac annwyd. Serch hynny, roedd criw o 22 yna – a chroesawon newyddyfodiad a hen ffrind dan ni heb ei gweld ers dros flwyddyn. Felly cawson ddechreuad positif iawn i 2020. Mae’r ddau grŵp yn dal i wneud cynnydd ardderchog. Mae grŵp Anne wedi prynu llyfrau lefel Sylfaen yn barod ar gyfer mis Medi. Hefyd mae sawl un wedi mynychu cyrsiau Popeth Cymraeg dros y flwyddyn newydd ac maen nhw’n magu lot o hyder wrth siarad. Dan ni’n bwriadu cynnal diwrnod adolygu ym mis Chwefror, bydd y manylion allan cyn bo hir. Gorffennwyd darllen “Yn Ei Gwsg” (Bethan Gwanas) gan y grŵp darllen. Wnaeth bawb fwynhau’r llyfr yn fawr iawn, yn ei ystyried yn cynnwys stori dda iawn, wedi’i hysgrifennu’n greftus, yn ddoniol – efo tro ardderchog yn y cynffon. Cynhelir ein cyfarfod nesa ddydd Iau, 6ed Chwefror 2020, 10.00yb i fyny’r grisiau yn y ‘stafell ddarllen yn Llyfrgell yr Harris. Cawn gyfarfod y Pwyllgor am 1.00yp.