There were 23 of us present today and again we were delighted to welcome a new friend, Joan. Thank you, Steve, for being a good ambassador for the Club and recruiting her! We held a productive Committee Meeting in the afternoon. The Club has 37 paid up members and continues to flourish and offer a range of activities. We agree that the learning sessions need to focus on developing confidence in speaking skills. Margaret was busy today, taking our orders for the “St David’s Day” lunch, which is not actually on the correct day, but on Thursday, 5th March, as part of our next regular meeting day. Please note that this will be in The Continental Pub on South Meadow Lane, Preston, and NOT in the Harris Library as usual. This is the structure of the day:
10.00 – 12.15: lesson time; 12.15 – 1.45ish: lunch time; 1.45ish: Presentations time(in English.) Deborah from Anne’s class will give a talk on “Myths of Wales”: Learn how the afanc from the Conwy Valley was defeated; discover where the physicians of Myddfai got their knowledge from; hear how three major rivers that have their origins in Pumlumon came into being. Pete from Eleri’s class will give a talk based on the travels of George Borrow, who wrote the classic “Wild Wales” in 1862.
I hope that as many members as possible will attend to support Deborah and Pete, who will have spent a lot of time preparing their materials to inform and entertain us. If you are reading this for the first time and are interested in joining us for any part of the day, just get in touch – preferably by email.
Roedd 23 ohonon ni’n bresennol heddiw ac unwaith eto cawson bleser i groesawu ffrind newydd, Joan. Diolch, Steve, am fod yn llysgennad da dros y Clwb ac am ei recriwtio hi! Cynhaliwyd cyfarfod Pwyllgor cynhyrchiol yn y prynhawn. Mae gynnon ni 37 o aelodau sy wedi talu eu ffi ac mae’r Clwb yn dal i ffynnu a chynnig gweithgareddau amrywiol. Cytunon ei fod hi’n bwysig i ganolbwyntio ar fagu hyder mewn sgiliau siarad. Roedd Margaret yn brysur heddiw, yn cymryd archebion bwyd am ein cinio “Dydd Gŵyl Dewi”, sy ddim yn cael ei gynnal yn union ar y dyddiad cywir, ond ar ddydd Iau, 5ed Mawrth, fel rhan o’n cyfarfod arferol nesa. DS fydd hwn yn nhafarn Y Continental ar South Meadow Lane, Preston, NID yn llyfrgell yr Harris fel arfer. Dyma raglen y dydd:
10.00 – 12.15: amser gwersi; 12.15 – tua 1.45: amser cinio; tua 1.45: amser Cyflwyniadau (trwy gyfrwng y Saesneg.) Fydd Deborah o ddosbarth Anne yn siarad am “Chwedlau Cymru”: Dysgwch sut drechwyd yr Afanc o Gwm Conwy; darganfyddwch o le gafodd Meddygon Myddfai eu gwybodaeth; clywch sut grëwyd tair brif afon ym Mhumlumon. Mi fydd Pete o ddosbarth Eleri yn cynnig sgwrs ar sail teithiau George Borrow, awdur y clasur “Wild Wales” (1862.)
Gobeithio bydd cymaint o aelodau a bo modd yn dod i gefnogi Deborah a Pete. Mi fyddan nhw wedu treulio lot o amser yn paratoi eu hadnoddau i’n dysgu a’n difyrru. Os dych chi’n darllen hwn am y tro cynta ac mae gynnoch chi ddiddordeb yn ymuno â ni am unrhyw ran o’r dydd, cystyllwch â ni – anfon ebost yw’r ffordd gorau.