Clwb Siarad 3/5/18 – Learn Welsh with us each month

Sickness and holidays kept some members away this month but there were still 18 of us present.  The Beginners’ Group are making amazing progress.  The Intermediate Group are still facing the challenges of the past tense!  We were all word perfect on the chorus of “Calon Lân.”  Many members have been on courses or away on holiday in Wales in April and are using their Welsh more and more.  We also went to visit the SSIW group in Manchester in April and had a very warm welcome there.  Siop Shop Cafe is excellent, and the Welsh speaking owner was very pleased to see us.  The afternoon Committee Meeting went very well.  Next Clwb Siarad meeting is Thursday, 7th June 2018 at 10.00am in the Harris Library.

 

Roedd llai ohonom y mis hwn oherwydd salwch a gwyliau – ond roedd 18 yn bresennol, serch hynny.  Mae’r Grŵp Dechreuwyr yn mynd yn bell yn gyflym!  Mae’r Grŵp Canolradd yn dal i ymdopi â her y Gorffennol.  Canon “Calon Lân” yn berffaith.  Bu sawl aelod i ffwrdd ar wyliau neu’n mynychu cyrsiau ym mis Ebrill, ac yn falch iawn o’r cyfleoedd i ymarfer y Gymraeg.  Aethon hefyd i ymweld â Grŵp SSIW ym Manceinion yn ystod mis Ebrill, a chawson croeso cynnes iawn yno.  Mae caffi Siop Shop yn wych, ac roedd y perchennog (Cymro Cymraeg) wrth ei fodd wrth ein gweld.  Aeth cyfarfod y Pwyllgor yn y prynhawn yn dda iawn.  Mae cyfarfod nesa Clwb Siarad ar ddydd Iau, 7fed Mehefin am 10.00yb yn Llyfrgell yr Harris.

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

2 Responses to Clwb Siarad 3/5/18 – Learn Welsh with us each month

  1. Barry Lord says:

    Ro’n i wrth fy modd yn darllen am eich grŵp sgwrsio yn Preston achos mi ges i fy magu yn Euxton yn ymyl Chorley a ro’n i’n treulio llawer o amser yn Preston yn ystod fy arddegau. Dw i’n byw yn Nhrefaldwyn yng Nghanolbarth Cymru rŵan a dw i’n dysgu Cymraeg ers dwy flynedd a hanner. Yn ogystal â dosbarthiadau wythnosol yn y Trallwng, dw i’n cymryd rhan mewn dau grŵp siarad i ddysgwyr sy’n cyfarfod yn Nhrefaldwyn yn fisol. Mae Trefaldwyn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr felly does ‘na ddim llawer o bobl yn yr ardal sy’n siarad Cymraeg. Dw i’n meddwl bod y grwpiau sgwrsio yn bwysig dros ben achos maen nhw’n rhoi’r cyfle i mi ymarfer siarad Cymraeg a chymdeithasu drwy gyfrwng yr iaith tu allan i’r dosbarthiadau.

    Pob lwc efo’ch grŵp chi.

    • clwbsiarad says:

      Shw mae, Barry, diolch yn fawr iawn am dy neges. Ddrwg iawn gen i am beidio ateb yn gynt. Ro’n i’n byw yn Chorley hefyd yn yr 80au, ro’n i’n hoff iawn o’r dre ac mi ges i amser hapus iawn yna. Dw i’n byw yn Lytham St Annes erbyn hyn. Mae dy Gymraeg di’n ardderchog, mae’n dda i glywed dy fod ti’n cael cyfle i ymarfer siarad yn gyson. Dw i newydd ddod adre o Nant Gwrtheyrn – dw i’n cyfarfod a dysgwyr o dy ardal di yn aml yn y Nant. Dan ni’n bwriadu mynd i Ruthun efo’n dysgwyr ni ym mis Medi er mwyn iddyn nhw ymarfer y Gymraeg yn y dre. Hwyl fawr, Anne

Leave a comment