Today was our last meeting in the Continental for the time being. We are returning to the Harris Library after 5 months away. There were fewer of us than usual today, but we were delighted to welcome Lynda and David. Lynda is a Welsh speaker from Aberystwyth who has recently moved to Preston. We hope she will become a full time member of the Club. Our day out to Denbigh on 30 May was a huge success. We enjoyed it so much we’re considering going back for an overnight stay sometime. We are indebted to Nerys Ann from Popeth Cymraeg for organising so many activities for us. Have a look at our “Gallery” to see how happy we were. The idea of an evening “Chat and a Drink” group is being put aside for the moment. Our next and last meeting for 2018-2019 will be at 10.00am in the upstairs room of the Harris Library on Thursday, 4th of July. Brian has promised to bring his speciality – Welsh cakes – as a treat. The Reading Group will meet from 1.00 – 3.00 pm in the same location. We’ve just started our 4th book: Stryd y Bont, by Manon Steffan Ros. NB, we do not meet in August – the National Eisteddfod is on during the first week.
Cawson ein cyfarfod olaf (am y tro) yn Y Continental heddiw. Dan ni’n dychwelyd i Lyfrgell yr Harris ar ôl absenoldeb o bum mis. Criw bach oedden ni heddiw, ond roedd hi’n bleser i groesawu Lynda a David. Cymraes Cymraeg ydy Lynda, o Aberystwyth, sy newydd symud i Preston. Gobeithio bydd hi’n aelod llawn o’r Clwb. Roedd ein diwrnod allan i Ddinbych yn llwyddiannus dros ben. Wnaethon ni fwynhau cymaint ein bod ni’n ystyried mynd nôl i aros dros nos rhywbryd. Dan ni’n ddyledus iawn i Nerys Ann o Bopeth Cymraeg wnaeth drefnu cymaint o weithgareddau ar ein cyfer. Ewch i’n “Oriel” i weld mor hapus oedden ni. Mae’r syniad o noson “Sgwrs a Diod” yn cael ei roi o’r neilltu ar hyn o bryd. Cynhelir ein cyfarfod nesa, yr un ola am 2018-2019, am 10.00 yb i fyny’r grisiau yn Llyfrgell yr Harris, dydd Iau, 4ydd Gorffennaf. Mae Brian wedi addo dod â’i arbenigedd – cacennau cri / pice ar y maen fel amheuthun i ni. Bydd y Grŵp Darllen yn cyfarfod yn yr un man am 1.00 – 3.00yp. Dan ni newydd ddechrau ein pedwerydd llyfr: Stryd y Bont, gan Manon Steffan Ros. DS, dan ni ddim yn cyfarfod mis Awst – wythnos yr Eisteddfod.