Cawson noson ardderchog yn bwyta, sgwrsio, canu ac adrodd cerddi yn Y Snug yn Y Continental. Braf iawn oedd cyfarfod dau aelod newydd a chlywed lleisiau rhagorol – dim angen unrhyw meic ar Gwynfor – na Josh yn enwedig! Trueni am y tywydd garw ac afiechyd a wnaeth gadw un neu ddau i ffwrdd, ond roedd na griw da yn bresennol a digon o hwyl i’w gael.
We had an excellent night eating, chatting, singing and reciting poetry in The Snug in The Continental. It was so good to meet two new members and to hear exceptional voices – no microphone needed by Gwynfor – nor Josh especially! Shame about the bad weather and poor health that kept one or two away, but there was a good crew present and plenty of fun to be had.