Llongyfarchiadau dilys iawn i Dr Ben Rees a Chymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi am gynnal Ŵyl ardderchog. Aeth 4 ohonon ni draw i Lerpwl dydd Sadwrn i ymuno â’r seremoni dadorchuddio y Gofeb yn ymyl Doc Princes. Roedd yn achlysur hynod o ddiddorol a difyr a wnaeth argraff ddofn arnom. Yr unig siom oedd gorfod mynd adre heb fynd i’r Cyngerdd Cymraeg yn yr hwyr. Diwrnod bendigedig!
Sincere congratulations to Dr Ben Rees and Liverpool Welsh Society for organising an excellent festival. 4 of us went to Liverpool on Saturday to join in with the Memorial unveiling ceremony alongside Princes Dock. It was an exceptionally interesting and entertaining occasion which left a deep impression on all of us. The only disappointment was having to go home without going to the Welsh Concert in the evening. A fantastic day!