Hêlo, bawb! Croeso i Glwb Cymraeg Preston. Rydyn ni’n cwrdd unwaith y mis, ar fore’r dydd Iau cyntaf, yn y brif lyfrgell (http://www.harrismuseum.org.uk/) yng nhganol y dre, 0 10.00 yb – 12.00 yh. Sefydlwyd y grwp ym mis Mawrth 2014 ac ers hynny rydyn ni wedi denu tua 40 o bobl i gysylltu â ni, er bod nifer ohonynt yn cael trafferth i ddod ar fore Iau oherwydd eu gwaith neu ymrwymiadau eraill. Felly, rydyn yn awyddus iawn i ddatblygu’r Clwb yn bellach wrth drefnu nosweithiau cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer y rhai sy ddim yn gallu dod yn ystod y dydd. Ewch i’r dudalen “What’s on/Be sy’n dod” am fwy o wybodaeth. Ambell waith mae angen i ni newid dyddiad y cyfarfod misol – cewch y rhestr gyfan ar “Be sy’n dod” hefyd.
Rydyn ni’n agor i unrhyw un sy a diddordeb yn neu gysylltiad â phethau Cymraeg. Mae’n syndod pa mor amrywiol ydy’r rhesymau pam mae pobl yn dod – mae eu cefndir yn ddiddorol iawn. Mae rhai ohonon ni’n Gymry alltud sy’n siarad yr iaith yn rhugl, rhai sy wedi bod yn dysgu am dipyn o amser a rhai sy ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond eisiau dysgu. Rydyn ni’n cynnig gwersi yn y cyfarfodydd – ewch i’r dudalen “Clwb Siarad” i wybod mwy am hyn.
Mae croeso cynnes i bawb yn y Clwb – peidiwch â bod yn swil, dewch i’n gweld. Mae croeso hefyd i chi gysylltu a fi yn uniongyrchol ar clwbsiarad@gmail.com.
Gobeithio clywed wrthoch neu’ch gweld yn fuan. Pob hwyl!
Haia Anne
Dw i’n licio y lluniau Brian. Pam wyt ti’n deud “Artist”, nid “Arlunydd”?
Hwyl
Mary
Dw i wedi newid y gair, nawr, Mary! Hefyd wedi darganfod sut i ysgrifennu a,e, ayyb efo to ar eu pennau.